Ail Gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol Undebau Cyfiawnder, a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2014

 

Yn bresennol: Julie Morgan AC, Rhodri Glyn Thomas AC, Joyce Watson AC, Helen Cunningham (staff cymorth Jenny Rathbone AC), Alex Still (staff cymorth Jeff Cuthbert AC), Sian Mile (staff cymorth Aelod Cynulliad), Robert James (staff cymorth Aelod Cynulliad), Tracey Worth (Napo), Jane Foulner (Napo), Rob Thomas (Napo), Kay Powell (Cymdeithas y Cyfreithwyr), Richard Miller (Cymdeithas y Cyfreithwyr), John Hancock (POA), Rob Robbins (Unsain) ac Emily Cannon (Unsain).

 

1.             CROESO

 

Croesawodd Julie Morgan AC (Gogledd Caerdydd) bawb i ail gyfarfod y Grŵp Cyfiawnder. Gofynnodd Julie a oedd pawb wedi darllen y cofnodion ac a oeddent yn fodlon ar eu cynnwys. Hefyd, dywedodd Tracey Worth wrth y grŵp fod y camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf wedi eu cymryd. Gofynnodd Tracey a oedd unrhyw gwestiynau mewn perthynas â’r pwyntiau gweithredu. Nid oedd unrhyw gwestiynau. Wedyn, cafodd Richard Miller, Pennaeth Cymorth Cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, ei gyflwyno gan Julie fel prif siaradwr y cyfarfod.

 

2.            SIARADWR - RICHARD MILLER (Gweler y nodiadau ar ddiwedd y cofnodion hyn)

 

Rhoddodd Richard y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am ymgais y Weinyddiaeth Gyfiawnder i leihau cost y bil cymorth cyfreithiol 17.5%. Esboniodd Richard fod Cymru wedi ei rhannu’n chwe ardal gaffael a oedd yn ddaearyddol helaeth, a byddai hyn yn gwneud darparu cynrychiolaeth gyfreithiol yn anodd mewn ardaloedd mwy gwledig; er enghraifft, os byddai’r cynlluniau’n mynd yn eu blaen, byddai pedair ardal o ran contractau rhwng Hwlffordd ac Aberhonddu. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi awgrymu bod cwmnïau cyfreithiol gwledig yn gwneud cynnig cydgysylltiedig; Fodd bynnag, esboniodd Richard nad yw hyn yn ymarferol, a’i fod yn tanseilio rheolau proffesiynol.

 

Gofynnwyd i Julie Morgan pam yr ydym, fel Cenedl, yn erlyn mwy o ddiffynyddion nag unrhyw wlad arall yn Ewrop. Nododd Richard fod ymchwil troseddegol yn awgrymu bod gan wledydd eraill systemau cyfiawnder troseddol mwy trugarog. Yn y DU, mae’r cyfryngau yn canolbwyntio ar ddedfrydau trugarog a roddir, ac maent yn hoffi codi bwganod. Mae pob llywodraeth hefyd yn hoffi cael ei gweld i fod yn llym o ran troseddu.

 

Gofynnodd Rhodri Glyn Thomas beth oedd barn Cymdeithas y Cyfreithwyr ar ddatganoli cymorth cyfreithiol i Gymru. Dywedodd Richard y byddai manteision ac anfanteision i hyn, ond y byddai’n gobeithio na fyddai’r Cynulliad Cenedlaethol yn bwrw ymlaen â’r toriadau sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth bresennol y DU.

 

Gofynnodd Robert James beth oedd barn y farnwriaeth a Chymdeithas yr Ynadon ar y toriadau i gymorth cyfreithiol. Nododd Richard nad yw beirniaid yn tueddu i wneud sylwadau; fodd bynnag, mae rhai beirniaid sydd wedi ymddeol wedi siarad yn erbyn y cynlluniau hyn. Hefyd, bu rhai achosion, a oedd wedi cael tipyn o sylw cyhoeddus, lle’r oedd beirniaid wedi gorchymyn bod y llys yn talu’r bil ar gyfer cynrychiolaeth gyfreithiol. Bu llawer o gefnogaeth gan y farnwriaeth i’r toriadau hyn.

 

 

 

Nododd Rob Robbins fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn mynnu bod gwasanaethau’n cael eu preifateiddio ac y dylem weithio gyda’n gilydd fel grŵp i frwydro yn erbyn hyn. Nododd Julie Morgan fod hyn yn effeithio ar gyfiawnder troseddol yn gyffredinol a bod ein gwaith yn gydgysylltiedig. Cyfeiriodd Rob Thomas at y Llysoedd Sifil a gofynnodd a fydd cynnydd yn nifer y diffynyddion sy’n amddiffyn eu hunain. Nododd Richard y gallai fod yn fwy cyffredin mewn ardaloedd gwledig fod diffynyddion yn amddiffyn eu hunain oherwydd daearyddiaeth.

 

Gofynnodd John Hancock a oes perygl y bydd mwy o achosion o gamweinyddiad cyfiawnder yn codi os bydd y toriadau arfaethedig hyn yn mynd yn eu blaen. Nododd Richard fod sgil-effaith yn bosibl.

 

Gofynnodd Emily Cannon gwestiwn penodol ynghylch Deddf yr Iaith Gymraeg, a gafodd ei chrybwyll yn yr araith. Cododd Julie Morgan bryderon fod y cyfnod ymgynghori wedi ei dorri’n fyr ar gyfer Siaradwyr Cymraeg a gofynnodd a oedd hynny’n sail i apelio. Nododd Kay Powell fod Cymdeithas y Cyfreithwyr mewn cysylltiad â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch y Cynllun Iaith Gymraeg.

 

Gofynnodd Julie am hynt y toriadau i gymorth cyfreithiol. Esboniodd Richard eu bod i fod i gyflwyno ceisiadau ym mis Hydref 2014 yn wreiddiol; fodd bynnag, mae hyn wedi cael ei ohirio ac nid ydynt wedi cael gwybod am yr amserlen newydd hyd yn hyn.

 

Gofynnwyd i Jane Foulner sut mae hyn yn effeithio ar blant a gynrychiolir. Rhoddodd Richard wybod fod hyn yn rhan o’r un mater a’i fod yn destun pryder.

 

Gofynnodd Julie Morgan a fyddai newid yn y Llywodraeth yn rhoi terfyn ar y toriadau i gymorth cyfreithiol. Nododd Richard fod y tair brif blaid wleidyddol wedi ymrwymo i leihau costau Cymorth Cyfreithiol; fodd bynnag, nid yw Llafur wedi gwneud yn glir yr hyn y byddai’n ei wneud. Gofynnodd Julie Morgan a allai’r cynlluniau gael eu hatal neu a oeddent wedi symud yn rhy bell ymlaen. Esboniodd Richard y gellid dod â’r cynlluniau i ben ar unrhyw adeg, a’i fod yn teimlo bod yr amserlen yn eithriadol o dynn o ystyried yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesaf.

 

Camau i’w cymryd

 

·         Y grŵp i ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chomisiynydd y Gymraeg i leisio pryder bod y cyfnod ymgynghori diweddar wedi ei gyfyngu i bythefnos ar gyfer Siaradwyr Cymraeg.

·         Byddai’r grŵp yn ysgrifennu at y Comisiynydd Plant i leisio pryderon ynghylch toriadau arfaethedig i gymorth cyfreithiol a sut y byddant yn effeithio ar bobl ifanc.

·         Byddai aelodau o’r grwp yn annog aelodau’r undebau i lobïo eu ASau mewn perthynas â’r toriadau i gymorth cyfreithiol a sut y byddant yn cael effaith fwy negyddol ar ardaloedd gwledig.

 

 

Paratowyd y cofnodion gan Tracey Worth, NAPO Cymru.


 

Cyflwyniad Cymru

 

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn bryderus iawn am effaith debygol cynlluniau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer gwasanaethau amddiffyn troseddol. Credwn y bydd Cymru’n cael ei heffeithio’n benodol.

 

Ar hyn o bryd, mae gan unrhyw gwmni sy’n cyrraedd y safonau ansawdd hawl i gynnig gwasanaethau i gleientiaid sy’n eu cyfarwyddo’n uniongyrchol a thrwy gynllun cyfreithiwr ar ddyletswydd.

 

O dan y cynigion newydd, tra bydd unrhyw gwmni yn gallu ymgymryd â gwaith i gleientiaid sy’n eu cyfarwyddo’n uniongyrchol, nifer cyfyngedig o gwmnïau fyddai â’r hawl i wneud gwaith cyfreithiwr ar ddyletswydd. Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yn credu na fyddai eu busnesau’n hyfyw heb waith cyfreithiwr ar ddyletswydd. Mae pob cyfradd yn cael ei thorri 17.5%, ac mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yn credu y bydd hyn yn ormod i lawer o’r rhai sy’n llwyddo i gael contract ymdopi ag ef.

 

At ddibenion y cynllun hwn, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn rhannu Cymru yn chwe ardal caffael: Gogledd Cymru 1 a 2, Dyfed-Powys 1 a 2, De Cymru a Gwent. Mae Gogledd Cymru 1 yn ymestyn o Fae Colwyn drwy Sir Ddinbych a’r Wyddgrug i Wrecsam. Mae Gogledd Cymru 2 yn cynnwys Gogledd Ynys Môn, Dolgellau, Caernarfon a Phwllheli. Mae Dyfed-Powys wedi ei rhannu’n ddwy ardal; y cyntaf yn cwmpasu Dyffryn Aman, Caerfyrddin, Dwyrain Dyfed a Llanelli, a’r ail yn cynnwys gorsafoedd heddlu Brycheiniog a Maesyfed, canolbarth Cymru, gogledd a de Ceredigion a sir Benfro. Mae De Cymru yn cynnwys yr ardaloedd a ddiffinir gan Abertawe, Caerdydd a Merthyr Tudful. Mae ardal Gwent yn cynnwys Casnewydd, Cwm Rhymni isaf a Dwyrain Gwent.

 

Yn ôl ystadegau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, cynhaliodd 119 o gwmnïau o leiaf 50 o achosion yng Nghymru yn 2013-14.

 

O dan y cynigion newydd, dim ond 30 o gontractau cyfreithiwr ar ddyletswydd fyddai’n cael eu dyfarnu.

 

Yn ddiweddar, collodd y Weinyddiaeth achos am adolygiad barnwrol oherwydd nad oedd wedi ymgynghori’n briodol ar adroddiadau a gafodd gan Otterburn Legal Consulting a KPMG ar ei chynigion. Ei hymateb oedd cyhoeddi ymgynghoriad newydd, a oedd ar agor am dair wythnos yn unig. Fel y nodwyd yn ein hymateb i’r ymgynghoriad, ymddangosodd y fersiwn Gymraeg ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder wythnos i mewn i’r cyfnod ymgynghori, ac nid oedd yn bosibl ymateb ar-lein yn y Gymraeg. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cael problemau o’r blaen yn cyflawni ei rhwymedigaethau o ran yr iaith Gymraeg. Mae gwneud hynny unwaith eto mewn ymgynghoriad a oedd ond tair wythnos o hyd yn ymddangos yn gamwedd arbennig o ddifrifol.

 

Mae adroddiad KPMG yn cynnwys rhai sylwadau diddorol iawn ar gynigion yr Arglwydd Ganghellor, sy’n berthnasol i bedwar allan o’r chwe ardal gaffael yng Nghymru. Mae KPMG yn gosod paramedrau ar gyfer maint y contract sydd ei angen i fod yn hyfyw ar ôl toriad ffi y Weinyddiaeth Gyfiawnder o 17.5%; a oedd yna gwmnïau yn yr ardal gaffael a oedd yn ddigon mawr i allu gweithredu contract o’r fath; a faint o’r farchnad fyddai’n rhaid uno â’r cwmnïau llwyddiannus. Dim ond mewn 21 o’r 85 o ardaloedd caffael ledled Cymru a Lloegr y gallai’r holl baramedrau hyn gael eu bodloni. Yng Nghymru, dim ond De Cymru a Gwent oedd yn ‘pasio’ y prawf hwn.

 

Mewn 21 ardal, gan gynnwys un o ardaloedd Gogledd Cymru ac un o ardaloedd Dyfed-Powys, nid oedd o leiaf un o’r profion wedi’i basio. Mewn 9 ardal, gan gynnwys y ddwy ardal yng Nghymru sy’n weddill, ni phasiwyd profion lluosog. Anogodd KPMG y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wneud dadansoddiad pellach i benderfynu a allai’r farchnad yn y 30 o ardaloedd hyn oroesi ei chynigion. Nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o’r fath.

 

Fodd bynnag, gadewch i ni yn nawr symud i ffwrdd oddi wrth y dadansoddiad ar bapur, ac ystyried y realiti ar lawr gwlad. Mae cynlluniau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei gwneud yn ofynnol i bob deiliad contract dalu am wasanaethau dyletswydd ar hyd a lled eu hardal gaffael. Felly, yn ardal Gogledd Cymru 1, rhaid i bedwar cwmni ymestyn eu hunain ar draws yr ardal gyfan o Fae Colwyn i Wrecsam. Yn Nyfed Powys 2, rhaid i gwmni gynnwys popeth o Hwlffordd i Aberhonddu ac Aberystwyth, ac unwaith eto dim ond pedwar deiliad contract fydd yn yr ardal hon. Byddai’r cynnig ar gyfer De Cymru yn gweld naw cytundeb ar gyfer yr ardaloedd a ddiffinir gan Abertawe, Caerdydd a Merthyr Tudful.

 

Treuliais ychydig o ddiwrnodau yng Nghymru yn gynharach eleni, i weld drosof fy hun yr heriau y byddai ymarferwyr yng Nghymru yn eu hwynebu wrth geisio gweithio ar draws ardaloedd mawr o’r fath. Aeth cydweithiwr o’r swyddfa yng Nghymru â fi o gwmpas yn y car i siarad ag ymarferwyr ledled gogledd a gorllewin Cymru. Ar ôl gwneud hynny, hoffwn gynnig her wirioneddol i swyddogion o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yrru o Gaernarfon i Ddolgellau yng nghanol y gaeaf ac yna dweud wrthyf fod hynny’n ffordd resymol o gaffael gwasanaethau. Mae’r golygfeydd yn hardd. Fodd bynnag, nid ceisio rhoi cyfle i gyfreithwyr dreulio oriau yn mwynhau harddwch golygfeydd Cymru ydym yn ei wneud. Rydym yn ceisio sicrhau gwasanaethau cyfreithiol i bobl sydd wedi cael eu harestio mewn modd sydd mor effeithlon â phosibl.

 

Roedd cynnig y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn seiliedig ar yr angen i gynnig contract mawr i gynigwyr, er mwyn cynhyrchu arbedion maint ac amsugno’r toriadau i’r ffioedd. Fodd bynnag, mae wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cael adroddiad drafft gan PA Consulting ym mis Awst 2013 a oedd yn cwestiynu a oedd arbedion maint mewn gwirionedd yn bodoli yn y farchnad hon. Mae’n ymddangos yn glir iawn yng Nghymru nad yw’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnig arbedion maint i gwmnïau. Maint yn unig y mae’n ei gynnig. Byddai cynyddu maint cwmnïau sy’n gwasanaethu eu cymunedau lleol i raddfa sy’n addas er mwyn darparu gwasanaethau ar draws y meysydd eang a ragwelir gan y cynigion hyn yn galw am fuddsoddiad enfawr a chostau rhedeg ychwanegol sylweddol. Nid yw’n gredadwy y gellir gwneud hyn tra’n amsugno toriadau o 17.5%.

 

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi awgrymu mai ateb posibl i’r broblem o ddaearyddiaeth fyddai cwmnïau’n cydweithio mewn "partneriaethau cyflenwi", lle byddai "sefydliad sy’n gwneud cais" yn dal contract gyda’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, ond byddai ganddo drefniadau gyda chwmnïau eraill i wneud ychydig o’r gwaith o dan y contract. Mae dwy broblem allweddol mewn perthynas â’r dull hwn. Y cyntaf yw bod dadansoddiad KPMG yn seiliedig ar yr hyn y mae KPMG yn ei ddweud sydd ei angen i gontract fod yn hyfyw yn economaidd. Does neb wedi egluro eto sut y gall partneriaeth cyflenwi weithio os ydych yn rhannu’r isafswm sydd ei angen i fod yn hyfyw yn economaidd rhwng nifer o sefydliadau. Yr ail yw bod rheolau’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol ac effaith y rhwymedigaethau proffesiynol yn cyfuno i wneud trefniadau o’r fath yn fiwrocrataidd ac anymarferol iawn.

 

Y pwynt nesaf yr wyf am ei drafod yw sut y bydd y penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch pwy sy’n cael contract. Yn wreiddiol, bwriad y Weinyddiaeth oedd defnyddio proses dendro gystadleuol o ran pris, ond derbyniodd yn y pen draw nad oedd y dull hwn yn un hyfyw yn y farchnad hon. Yn hytrach, mae’r Weinyddiaeth yn bwriadu defnyddio "mesurau ansawdd a gallu". Fodd bynnag, y broblem gyda’r dull hwn, yn ein barn ni, yw ei bod yn anodd iawn nodi unrhyw fesurau nad ydynt naill ai mor bwysig y dylent fod yn ofynion gorfodol neu mor syml y bydd yr holl gwmnïau sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y maes hwn eu bodloni. Rydym yn ei chael yn wirioneddol anodd gweld sut y gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder wahaniaethu rhwng cwmnïau. Rydym hefyd yn dal i aros i weld sut mae’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn bwriadu mynd i’r afael â’r mater o wasanaethau Cymraeg yn ei broses gaffael.

 

Felly, beth mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn gredu y dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei wneud? Ein pryder ar hyn o bryd yw bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn agored i’r camsyniad "Rhaid i ni wneud rhywbeth - dyma rywbeth, felly mae’n rhaid i ni ei wneud." Rydym wedi dweud o’r dechrau mai ein barn ni yw na allwch gymryd 17.5% allan o’r farchnad amddiffyn troseddol, ni waeth sut yr ydych yn ei had-drefnu. Mae’r farn honno wedi ei chefnogi gan adroddiad PA Consulting, yr adroddiad Otterburn ac adroddiad KPMG. Felly, fy ateb i’r cwestiwn yw, yn gyntaf, y dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder roi’r gorau i’r cynnig hwn, yr ydym yn credu y byddai, pe byddai’n symud ymlaen, yn gwneud niwed difrifol i’r system cyfiawnder troseddol.

 

Yn ail, mae angen i chi edrych ar y rhesymau pam mae’r DU yn gwario cymaint ar gymorth cyfreithiol troseddol. Yn ogystal â’r ffaith bod gennym system wrthwynebus, un o’r prif resymau yw ein bod yn erlyn llawer mwy o bobl na’r rhan fwyaf o wledydd eraill yn Ewrop. Cyhoeddodd Gyngor Ewrop ddata y mis hwn oedd yn dangos ein bod yn erlyn bron i ddwywaith cymaint o bobl â Ffrainc, a thua hanner cymaint eto na’r Almaen; fodd bynnag, ar y cyfan, mae costau ein system cyfiawnder troseddol yn gymedrol. Nid gwyddoniaeth roced mohono: os ydych yn erlyn mwy o bobl, byddwch yn gwario mwy ar wasanaethau amddiffyn troseddol.

 

Yn drydydd, mae data diweddar yn awgrymu bod y costau yn dod i lawr beth bynnag. Mae toriadau blaenorol i’r ffi yn treiddio drwy’r system o hyd, ac, er gwaethaf y ffaith bod niferoedd yr achosion yn uchel iawn o’u cymharu â gwledydd eraill, mae’r niferoedd hynny wedi bod yn gostwng ers degawd ac yn parhau i wneud hynny. Felly, rydym yn parhau ymhell o fod wedi’n hargyhoeddi bod yn rhaid i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder newid unrhyw beth er mwyn cyrraedd y targed cyllidebol y mae’r Trysorlys wedi’i gosod iddi.